Prosiectau

Mae ei gwaith cymunedol diweddar yn cynnwys Prosiect ‘Lleu’ a prosiect ‘Creu Heulwen’ arianwyd drwy grant ‘Cysylltu a Ffynnu’, gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

O fewn y prosiectau hyn cynhaliodd weithdai ymgysylltu a chreu yn ardal Bangor, Caernarfon, Nefyn a Chaergybi wnaeth adeiladu at orymdeithiau, llusernau, cerddoriaeth, dawns, theatr stryd a syrcas.Mae’n mwynhau dod a chwedlau, hanes lleol a threftadaeth yn fyw gan weithio gyda Chynghorau Sir ac ysgolion yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Mon.

Mewn partneriaeth gyda Canolfan Ddiwylliant Conwy, CADW a Fusion Conwy mae’n teilwra pecynau hanesyddol creadigol mewn Ysgolion a lleoliadau Treftadaeth.

children dressed up sitting outside on a rock
Children with masks they have made outdoors

Mae’n pecynnu y gwaith hwn ar gyfer pob oedran a chefndir. Mae ei gwaith diweddar hefyd yn cynnwys gweithdai yn datblygu a chreu gyda pobl ifanc GISDA, cangen LGBTQ Gwynedd ac Antur Waun Fawr.

Mae archwilio hanes, chwedloniaeth a threftadaeth wrth galon ei gwaith ac wedi ei harwain at brosiectau ymgysylltu diwylliannol gyda grwpiau Affrican Caribbean ac Indiaidd yn ardal Bangor.

Mae hefyd wedi arwain at brosiectau hanes a chynefin gyda phrosiectau cyfredol gyda Phartneriaethau Tirwedd Ynys Cybi a’r Carneddau. Yn arbenigo mewn drama, celf a iaith mae’n creu pecynau i hybu’r defnydd o’r iaith ac er budd rhannu diwylliant a hanes.