Amdanom ni

Manon Prysor, Cyfarwyddwr Creadigol Theatr Prysor ac actores a chyflwynwraig broffesiynnol. Mae’n arbenigo mewn perfformio a storio; gweithdai creadigol a dathliadau cymunedol.

Mae Manon yn gyflwynwraig ac actores theatr ffilm, teledu a theatr broffesiynol. Yn dilyn cyd-ddyfeisio a pherfformio sioeau TMA gyda Fran Wen, Amgueddfeudd Cymru ac Outreach, Theatr Clwyd, creu gweithdai ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.


Mae Manon wedi teithio Cymru ac Ewrop gyda perfformiadau theatre Bara Caws ac E.L.A.N. Wales. Mae wdi gweithio ar sawl prosiect tan gyfarwyddyd Firenza Guidi a No Fit State Circus – ‘Autogedon’ a ‘Tide Fields’.

Manon Prysor
Large scale lantern parade

Mae ei phrofiad actio yn ymestyn o ffilm ‘Hedd Wyn’, Pobol y Cwm; Rownd a Rownd S4C, Craith 2 BBC hyd at y gyfres Americanaidd ‘Documentary Now’.

Gyda gradd mewn Drama o brifysgol Aberystwyth a phedair blynedd fel darlithydd gradd Celfyddydau Perfformio yng ngholeg y Drindod, Caerfyrddin mae Manon yn arbennigwr yn ei maes ac yn addysgwraig. Mae’n diwtor Cymraeg gymwysiedig, yn arweinydd theatre ieuenctid ac yn Ymarferrydd ac Asiant Creadigol profiadol gyda Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn gyfredol, mae’n ymarferydd llawrydd yn masnachu fel Theatr Prysor

Magwyd RHYS MWYN yng nghanolbarth Cymru, yn Llanfair Caereinion, a mae’n byw bellach yng Nghaernarfon hefo ei wraig Nêst a dau fab. Bu Rhys a’i frawd Sion Sebon yn aelodau o’r grwp pync Cymraeg Anhrefn. Ffurfiwyd Label Recordio Anhrefn ganddynt a bu Rhys yn rheoli nifer o artistiaid a grwpiau gan gynnwys Catatonia. Mae gan Rhys sioe wythnosol pob nos Lun ar BBC Radio Cymru yn chwarae cerddoriaeth o’r 70au, 80au a 90au.

Wedi graddio mewn Archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd mae Rhys hefyd wedi dilyn gyrfa fel archaeolegydd a mae’n parhau i ddarlithio ar y pwnc.

Fel Tywysydd Bathodyn Glas Cymru mae Rhys bellach yn arwain teithiau credded led led Cymru gan arbenigo ar deithiau cerdded archaeolegol.

Cowbois