Theatr Prysor, celfyddydau a perfformio

Manon Prysor, Cyfarwyddwr Creadigol Theatr Prysor ac actores a chyflwynwraig broffesiynnol. Mae’n arbenigo mewn perfformio a storio; gweithdai creadigol a dathliadau cymunedol.

Mae ei gwaith cymunedol diweddar yn cynnwys Prosiect ‘Lleu’ a prosiect ‘Creu Heulwen’ arianwyd drwy grant ‘Cysylltu a Ffynnu’, gan Gyngor Celfyddydau Cymru. O fewn y prosiectau hyn cynhaliodd weithdai ymgysylltu a chreu yn ardal Bangor, Caernarfon, Nefyn a Chaergybi wnaeth adeiladu at orymdeithiau, llusernau, cerddoriaeth, dawns, theatr stryd a syrcas.

Adults and children drawing outdoors

Mae Manon wedi bod yn wych yn rhannu ei sgiliau gyda phobl ifanc GISDA, gan gyflawni gweithgareddau ystyrlon a diddorol oedd yn caniatáu iddynt gyfrannu at ddigwyddiadau creadigol o fewn y gymuned. Er enghraifft, bu parêd Dewi Sant ym Mangor yn llwyddiant ysgubol – bu nifer o bobl ifanc o’r Blaenau a Chaernarfon yn cymryd rhan yn y gweithdai paratoadol yn creu baneri a gwaith celf ar gyfer yr orymdaith, a hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad ar y diwrnod. Gwnaeth Manon yn siŵr bod yr holl bobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn ystod y sesiynau – roedden nhw wrth eu bodd yn cymryd rhan.

— Elly Stringer, Arweinydd Tim Creadigol GISDA

Newyddion

27 Mehefin 2025

Gweithdai celf a stori i ddathlu heuldro’r haf yn Bryn Celli Ddu gyda Cadw, Jeremy Deller, Oriel Mostyn a Think Creatively 

IMG 0690
9 Mai 2024

Gwyl Merlod Gwyllt - drwy nawdd grant Llais y Lle, Cyngor Celfyddydau Cymru

Theatr Prysor yn gweithio’n ddwys gyda chymunedau Penmaenmawr a Llanfairfechan i greu Gwyl Merlod Gwyllt gyntaf Gogledd Cymru. Mae’r prosiect yn dod a pawb at eu gilydd i ddathlu cymuned, tirlun, yr iaith Gymraeg a’r treftadaeth lleol.Mae Dartmoor ac Exmoor yn dathlu eu merlod hwy, a ceir sawl dathliad o gylch anifeiliaid yn Ewrop a thu hwnt. Dylem ni felly ddathlu ein merlod unigryw ni ar lethrau’r Carneddau. Mae dathlu traddodiad byw ‘ Casglu’ y merlod yn atgyfnerthu perthynas y ffermwyr gyda’r tirlun ac yn dod ac ysbryd y Carneddau lawr i’r trefi.- Wild Ponies Festival - funded by Llais y Lle, Arts Council Wales

11 Mehefin 2023

Diolch i pawb ddaeth i greu Celf a stori heddiw ar draeth Llanfairfechan. Prosiect Llais y Lle drwy nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru

Untitled 1
8 Mehefin 2023

Dathlu Y Dywysoges Gwenllian gyda stori a chelf yn Ysgol Pencae Penmaenmawr

352534432 649734259860223 3867304782801074338 n